Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan yn rhan o ddeuddeg safle Porth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar draws De Cymru.
Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn hyrwyddo tirlun a phobl eiconig Cymoedd De Cymru, ac yn gweithio gyda phartneriaid i fwyafu’r manteision amgylcheddol a chymdeithasol i gymunedau lleol a chenedlaethau’r dyfodol0
Mae pob Porth Darganfod yn eich lansio i’r tirlun a’r dreftadaeth sy’n rhan o hanes y Cymoedd. Maen nhw’n fannau lle gallwch chi dreulio amser yn yr awyr agored, cael hwyl, archwilio’r tirlun a dysgu mwy am fyd natur. Rydyn ni wedi’u galw nhw’n Byrth Darganfod oherwydd bod pob un yn lle gwych i ddechrau darganfod yr ardal leol.
Mae tirlun Cymoedd De Cymru yn cynnig golygfeydd ysgubol a phrofiadau cyffrous megis cerdded, beicio, beicio mynydd a gweithgareddau awyr agored. Mae’r tirluniau a fu gynt yng ngafael diwydiant bellach wedi cael eu hawlio’n ôl gan fyd natur.
Ym Mharc Coedwig Afan, un o gyrchfannau beicio mynydd mwyaf sefydledig y byd, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi’n helpu i amrywio’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i’n hymwelwyr. Yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan cewch hyd i gyfleusterau newydd, gan gynnwys ardal chwarae antur addas i blant 5-11 oed, dehongli newydd yn y ganolfan ymwelwyr, toiledau cyhoeddus a chawodydd wedi’u hadnewyddu, lleoedd parcio ychwanegol, man gwefru newydd i Gerbydau Trydan a goleuadau newydd ar y llwybrau. Mae gwaith ar y gwelliannau hyn yn parhau ar y safle ar hyn o bryd, ond bydd wedi’i gwblhau yn fuan iawn.
Mae digon i’ch cadw chi’n brysur ar draws holl safleoedd Porth Parc Rhanbarthol y Cymoedd, felly beth am gynllunio’ch gwyliau nesaf yng Nghymoedd De Cymru. Mae rhagor o fanylion am holl Safleoedd Porth Rhanbarthol y Cymoedd ar gael isod.