Mae Parc Coedwig Afan yn rhan o sir Castell-nedd Port Talbot, sydd hefyd yn cael ei galw’n Galon Ddramatig Cymru.

Mae Calon Ddramatig Cymru yn fan lle ceir amrywiaeth eithafol, wrth i’r dwyrain trefol gwrdd â gorllewin gwledig Cymru. Mae cymoedd ac arfordir, rhaeadrau a thonnau, harddwch a rhuddin, i gyd yn cyfuno i greu profiad annisgwyl, bythgofiadwy.

 

Y ffordd orau o werthfawrogi tirweddau ein harfordir a’n cymoedd yw gadael y car a gweld drosoch eich hunan beth sy’n gwneud ein hardal yn unigryw. Rydyn ni’n argymell beicio mynydd, beicio, cerdded a syrffio fel y ffyrdd gorau o brofi’r cyferbyniadau naturiol a diwydiannol sy’n ffurfio ein hardal.

 

Mae Castell-nedd Port Talbot yng nghanol De Cymru, sy’n golygu ei bod yn ardal ddelfrydol fel canolfan i archwilio’r rhanbarth cyfan.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein sir hardd, ewch i wefan Calon Ddramatig Cymru

Darllen mwy

Dewch i ddarganfod

Calon Ddramatig Cymru

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio