Mae Parc Coedwig Afan yn adnabyddus fel un o’r cyrchfannau beicio mynydd mwyaf cyffrous yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r 6 llwybr di-dor gwych y mae eu hyd yn amrywio o 7km i fwy na 40km a pharc beicio gradd eithafol yn golygu bod gan ardal Afan fwy o lwybrau pob-tywydd trac sengl na’r un ganolfan beicio mynydd arall yng Nghymru.
O ran anhawster, mae’r llwybrau yn dechrau â llwybr glas/cymedrol Blue Scar, sy’n wych ar gyfer gwella sgiliau a meithrin hyder. Mae’r llwybrau coch/anodd Penhydd, y Wal, White’s Level a Blade yn gofyn am fwy o egni, hyder a sgiliau technegol. Ac mae gan lwybr du/caled W2, sy’n cysylltu llwybrau y Wal a White’s Level, rai o’r disgyniadau a rhannau trac sengl mwyaf heriol yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r llwybr gwyrdd/rhwydd Rookie a llecyn hwyl a sgiliau ar gael hefyd i feicwyr mynydd sy’n ddechreuwyr llwyr.