Pellter: 13 milltir (taith un ffordd o Draeth Aberafan i Flaengwynfi)

Amser Reidio: 3-4 awr

Dringfa: Graddiant graddol

Gradd: Ffordd Goedwig neu lwybr tebyg

Llwybr Beicio Cenedlaethol 887

Bydd Llwybr Beicio Cenedlaethol 887 yn mynd â chi o’r cwm i’r arfordir gan gysylltu Traeth Aberafan â Glyncorrwg a Blaengwynfi yng ngogledd y cwm trwy Barc Coedwig Afan! Ymunwch â’r llwybr beicio ar Lan Môr Aberafan, Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan neu Ganolfan Ymwelwyr Pyllau Glyncorrwg. Dilynwch yr arwyddion llwybr beicio cenedlaethol glas.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr beicio edrychwch ar Wefan CBS Castell-nedd Port Talbot.