Croeso i Barc Coedwig Afan! Edrychwch ar ein gwefan i gynllunio’ch antur nesaf yn y rhan hyfryd hon o dde Cymru.

Dewch i ddarganfod ein llwybrau beicio mynydd enwog, llwybrau cerdded wedi’u cyfeirbwyntio a llwybrau beicio addas i deuluoedd â harddwch Cwm Afan, de Cymru yn gefnlen iddynt.

 

Gyda chyfleusterau gwych a siopau beiciau sy’n cydweithio â thywyswyr beicio mynydd a gwasanaethau hyfforddi lleol, mae’n hawdd mynd ar feic yng Nghwm Afan.

 

Mae Parc Coedwig Afan yn berffaith ar gyfer anturiaethau addas i’r teulu. Mae Llwybr y Rheilffordd yn daith feicio rwydd ar hyd llawr y dyffryn ac mae’r Llwybr Rookie yn berffaith ar gyfer plant (ac oedolion) sy’n dechrau beicio mynydd.

 

Wrth grwydro Parc Coedwig Afan (a elwir hefyd yn Afan Argoed) ar droed, byddwch yn camu yn ôl troed ein hynafiaid. Cerddwch drwy ein dyffryn gwyrdd ir lle mae natur yn ailfeddiannu olion ein gorffennol diwydiannol o dipyn i beth.

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio